Pwy ydan ni

2022 sees Harlech Foodservice celebrate 50 fabulous years in business!

2022 sees Harlech Foodservice celebrate 50 fabulous years in business!

From when we were first established in 1972, we have outgrown two premises and evolved in to Harlech Foodservice as you know us today. Thank you to each and every one of you that continue to support us as we work together growing your business and ours. We’re looking ahead to an exciting year and are looking forward to having you with us along the way!

SYLFAENWYR Y CWMNI

Colin & Gill Foskett

Daeth Colin a Gill o gefndiroedd busnes teuluol, felly nid oedd gwaith caeld ac oriau hir yn ddieithr iddynt. Pan wnaeth y cyfle i archebu busnes bwyd rhewedig yn Harlech godi yn 1972, fe wnaethon neidio ar y cyfle. Fe wnaeth Fred a Stephen - brodyr Colin - ymuno gyda’r cwmni yn ddiweddarach, ac roedd gweithio’n galed i adeiladu’r busnes yn hollbwysig iddyn nhw i gyd.

Yn anffodus bu farw Colin yn 2015 a Gill ar ddechrau 2019. Mae eu plant Jonathan, Andrew a Laura, ynghyd â chyd-gyfarwyddwyr a staff yn gweithio’n galed i symud y busnes yn ei flaen a pharhau eu hetifeddiaeth.

Colin & Gill Foskett

Early years 1973

BLYNYDDOEDD CYNNAR

Fe wnaeth Colin Harry Foskett adael yr ysgol yn 1960 a gweithio i’w Dad yn y fasnach groser.

Yn 1972, wrth weld y potensial yn y fasnach bwyd rhewedig, fe gymerodd naid ffydd a chodi digon o arian i archebu alfa fwyd rhewedig ym mhentref arfordirol Harlech.

Ynghyd â’i wraig Gill, eu meibion Jonathan ac Andrew (llun chwith), ac eu merch, Laura, gwnaed y penderfyniad i symud o Sir Amwythig i Ogledd Cymru. Ganwyd Harlech Frozen Foods.

TWF CYSON

Yn fuan wrth i’r busnes dyfu daeth yn amlwg byddai’r cwmni yn tyfu’n rhy fawr i’w adeilad ar y stryd fawr gul yn Harlech a phan daeth llain o dir yn Y Ffôr, ger Pwllheli ar werth roedd yn gyfle i ehangu’r busnes ac adeiladu depot i ddarparu ar gyfer twf yn y dyfodol.

Fe wnaeth y cwmni fasnachu o’r ddwy safle am ychydig o flynyddoedd ond yn 1990 gwnaed y penderfyniad i gau safle Harlech a gweithredu allan o’r un depot yn Y Ffôr yn unig. Am yr 20 mlynedd nesaf parhaodd y cwmni i dyfu ac eto yn 2010 fe wnaeth y cwmni dyfu’n rhy fawr ar gyfer ei safle, a felly symudodd i’r depot pwrpasol ym Mharc Bwyd Llanystumdwy, ger Criccieth. Yn sgil yr adeiladu daeth effeithlonrwydd gweithredol enfawr, arbedion costau a buddion amgylcheddol sylweddol.

2002 Overhead view of site at Y Ffor 1990 Old refrigerated vehicle Christmas day 1975 - Jonathan & Andrew riding their new Christmas presents 1989 Inside the shop at Y Ffor

EIN YMRWYMIAD

Ein nod yw darparu datrysiad gwasanaeth bwyd cyfan i’r diwydiant arlwyo. Rydym yn angerddol am y busnes gwasanaeth bwyd ac yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf i’n holl gwsmeriaid.

Rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i gynnyrch Cymreig lleol lle bynnag bo modd, nid yn unig ar gyfer ei ansawdd a’i flas rhagorol, ond hefyd i gefnogi busnesau lleol. Rydym yn cyd-weithio gyda cymysgedd amrwyiol o gyflenwyr cenedlaethol a rhyngwladol i gyflnwni ein cwsmeriaid gyda’r cynhyrchion mae’n nhw eu hangen, boed yn fwydydd a chynhwysion arbenigol neu nwyddau syml. Gyda adolygu a datblygu cyson, mae ein hystod o gynhyrchion yn ehangu’n barhaus i ateb gofynion ein cwsmeriaid.

Ein nod yn syml yw sicrhau ein bod yn ateb galw ein holl gwsmeriaid a chael ein hystyried fel y cyflenwr gwasanaeth bwyd mwyaf dibynadwu ac effeithlon yng Nghymru a’r Gogledd Orllewin - un galwad, un anfoneb, yn danfoniad.

Harlech Foodservice Depot

HEDDIW...

Heddiw, 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae Gwasanaeth Bwyd Harlech yn parhau i fod yn gwmni annibynnol a theuluol, gyda gwasanaeth cwsmeriaid arobryn ac ymrwymiad i ragoriaeth wrth galon y busnes.

Mae’r cwmni yn cyflogi dros 200 aelod o staff llawn amser, yn cynnig dros 10,000 o linellau cynnyrch, ac yn dosbarthu i gwsmeriaid ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ogystal â Gogledd Orllewin a Chanolbarth Gorllewin Lloegr.