GWASANAETH
Mae'r haf yn dod! Wrth inni groesawu tymor yr Haf, mae'n deg dweud bod ein gwasanaeth cludo 7 diwrnod newydd eisoes yn gefnogaeth aruthrol i'r rhai ohonoch sy'n manteisio arno. Ynghyd â’n cyfleuster archebu ar-lein, sy’n caniatáu i bob un ohonoch archebu hyd at 10yh ar gyfer cludiad y diwrnod canlynol, mae ein gwasanaeth yn eich galluogi i ganolbwyntio ar wasanaethu anghenion eich cwsmeriaid, wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eich anghenion chi.
PRISIO
Wrth i ni barhau i weld cynnydd mewn prisiau ar draws y farchnad fyd-eang, rydyn ni'n gweithio'n galed i'ch cefnogi chi trwy gynnig dros 200 o ffyrdd i Arbed Arian pan fyddwch chi'n siopa gyda ni y mis hwn. Rydyn ni'n edrych yn ofalus ar y llinellau rydych chi'n eu prynu fwyaf ohonyn nhw, eich hanfodion bob dydd ac yn gosod y prisiau ar gyfer y mis i ddod gan eich galluogi chi i gynllunio'n effeithiol gyda'n prisiau tryloyw, sydd ar gael i chi ar-lein pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch chi.